Arwynebau Gwrth-lithro

I gael rhagor o wybodaeth am ein Harwynebau Gwrth-lithro, cliciwch isod:


Mae cynnyrch gwrth-lithro MK Enterprises wedi’i ddefnyddio yn llwyddiannus ar bontydd, llwybrau bordiau, grisiau a chamfeydd. Waeth beth yw’r deunydd, bydd y cynnyrch gwrth-lithro yn glynu wrth bron unrhyw arwyneb. Gellir ei roi ymlaen ar y pwynt archebu, neu gall ein tîm profiadol ei roi ymlaen ar y safle.

Mae’r broses hon yn cynnwys rhoi paratowr ymlaen (lle bo angen) wedi’i ddilyn â pholywrethan resin dwy ran sydd wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio gydag amryw fathau a graddau o agregau (aggregate) i greu arwyneb gwrth-sgidio a gwrth-lithro.

Mae ar gael mewn sawl lliw, gan gynnwys llwydfelyn, llwyd, coch, oren, gwyrdd, glas a du.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gael sampl, cysylltwch â ni.

anti-slip-surfaces-2.jpg

Gan gynnig yr un apêl â phren go iawn ac eithrio llawer o'i ddiffygion ar gyfer amgylcheddau awyr agored, caiff Melinfyrddau eu cynhyrchu o samplau derw cysefin (prime oak), gan ddyblygu rhinweddau gwell y rhai gwreiddiol yn hytrach na chael eu hallwthio o beiriant fel y gwneir gyda chyfansoddion eraill. Mae pob bwrdd wedi'i orffen â llaw i atgynhyrchu manylion pren naturiol heb fawr o ailadrodd a gellir eu llifio a'u gosod fel pren.

Y gwahaniaeth...

Mae arwyneb gweadog a gwydn y Melinfyrddau ‘Lastane’ gorffenedig yn unigryw yn yr ystyr y bydd yn darparu arwyneb caled, gwrth-algâu sy’n gwella’r gallu gwrth-lithro yn fawr mewn amodau gwlyb i ddarparu, o bosibl, y bwrdd decio cyfansawdd naturiol yr olwg mwyaf diogel sydd ar gael. Gan nad yw’n fandyllog, nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw arno heblaw am ei olchi o bryd i’w gilydd gyda dŵr a sebon gan y bydd glaw naturiol yn ei gadw'n lân i raddau helaeth. Mae ei gyfansoddiad sefydlog o fân ehangu neu grebachu a gorffeniad sefydlog UV, nad yw'n newid fel dewisiadau amgen, yn sicrhau ei fod yn gynnyrch sefydlog iawn ym mhob tywydd.

Mae Melinfyrddau yn addas ar gyfer y diwydiant hamdden, amgylcheddau masnachol a defnydd domestig.

Mae ystyried yr amgylchedd yn flaenoriaeth wrth weithgynhyrchu Melinfyrddau. Mae wedi'i wneud gyda hyd at 50% o ddeunydd wedi'i ailgylchu sy'n gwneud defnydd o wastraff anodd ei ddefnyddio, ac felly mae cynhyrchu Melinfyrddau yn helpu i warchod adnoddau'r ddaear yn ogystal â lleihau lefelau tirlenwi. Mae'r gweithgynhyrchu a'r dosbarthu yn digwydd yn y DU, gan gynnal ôl troed carbon isel.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Caiff Melinfyrddau eu cynhyrchu yn y DU gan ddefnyddio polywrethan, amryw gyfuniadau o ddeunyddiau a sgil-gynhyrchion wedi’u hailgylchu gan greu cyfraniad defnyddiol i adnoddau’r ddaear a helpu i warchod coedwigoedd coed caled aeddfed.

Mae'r broses gynhyrchu hynod dechnegol hon, sy’n broses weddol ynni isel, yn mowldio byrddau decio wedi'u hatgyfnerthu â ffeibrau yn amrywiaeth anhygoel o weadau manwl, gan greu oes newydd i ddeciau allanol. Mae Melinfyrddau yn sicr o beidio â hollti, anffurfio, rhoi ysgyrion (splinters), trwytholchi (leach) tannins na phydru fel pren. Fel byrddau pren, mae gan Felinfyrddau graidd solet sydd â'r fantais o ddileu'r risg real iawn y bydd pryfed neu bla yn dechrau byw mewn byrddau decio gwag neu'n marw ynddynt.

Melinfyrddau Lastane – Y datrysiad decio mwy diogel

Melinfyrddau Lastane yw’r math gorau o ddecio o ran ansawdd lle mae’r arwyneb ‘Lastane’ wedi’i fireinio i roi cynnyrch gorffenedig caled, gwydn a manwl iawn sy’n gwella ymwrthedd llithro yn fawr mewn amodau gwlyb ac yn cynnwys arwyneb nad yw’n fândyllog, sy’n ymwrthod twf mwsogl ac algâu mewn amodau cyffredin. Nid oes llawer o waith cynnal a chadw ynghlwm â'r cynnyrch terfynol, sydd yn ei dro yn lleihau problemau cynnal a chadw a chostau, ac yn arbed amser.

Mae gan y cynnyrch nodweddion ‘perygl isel iawn o lithro’, nad ydynt yn arw ac sy’n rhydd rhag ysgyrion, mae llai o risg a phryder o ran hawliadau am anafiadau.

Dim sandio – dim staenio – llai o hawliadau.

Gall y polywrethan a ddefnyddir i gynhyrchu Melinfyrddau bara’n hirach na phren, hyd at 35-40 o flynyddoedd (gan ddibynnu ar ei amgylchedd). Mae hyn yn osgoi gorfod ailosod heb fod angen, a fyddai’n defnyddio adnoddau ar raddfa ehangach. Mae gweithgynhyrchu polywrethan caled yn defnyddio gwariant ynni llawer is (2-6 MJ/kg) na phroses thermoplastig (6-29 MJ/kg), ac felly yn lleihau unrhyw ollyngiadau posibl.

Mae'r cyfuniad o'r gwydnwch, y broses ynni is a'r defnydd o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu ac adnewyddadwy yn sicrhau bod Melinfyrddau yn cynnig cynnyrch cynaliadwy ac ecogyfeillgar.

millboard.jpg


Achrediadau

CITB logo

Polisïau