Amdanom Ni

Mae gan MK Enterprises Ltd brofiad helaeth o ddylunio, adeiladu ac ymgynghori o fewn y diwydiant hamdden awyr agored. Rydym ni’n arbenigo mewn dylunio ac adeiladu strwythurau peirianneg bren a gweithio mewn ardaloedd o sensitifrwydd amgylcheddol gan ddarparu atebion mynediad i bob gallu er mwyn bodloni gofynion unigryw ein cwsmeriaid.
Gallwn ni gynnig amrywiaeth o wasanaethau ac rydym ni’n hapus i drafod unrhyw ofynion sydd gennych chi, waeth pa mor anghyffredin neu anodd.
Mae prosiectau a gynhaliwyd gan MK Enterprises wedi cynnwys:
- Peirianneg Bren
- Gweithdai pren / gwaith coed
- Profiadol o ran cydymffurfio â meini prawf y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DDA)
- Prosiectau seiliedig ar ddŵr / yr arfordir
- Ymgymryd â phrosiectau bach a mawr
- Dylunio Prosiectau a Chynhyrchion
- Draenio
- Peirianneg sifil
- Gwasanaethau dylunio drwy gymorth cyfrifiadur (CAD) llawn
- Contractio amgylcheddol
Cymerwch gip ar ein hadran Prosiectau i gael rhagor o fanylion.