Peirianneg Bren

Amrywiaeth lawn o atebion o ansawdd i’ch holl broblemau sy’n cynnwys strwythurau pren a dur:

  • Cerbydol, llwybrau ceffylau, llwybrau beicio a phontydd troed i gerddwyr wedi’u dylunio, eu gweithgynhyrchu a’u gosod mewn pren, dur neu gyfuniad o’r ddau i weddu i ddymuniadau’r cleient
  • Llwybrau bordiau pren, llwybrau cerdded, rampiau ac adeiladau. Rydym ni’n hapus i gydweithio i ddiwallu anghenion unigol ac mae gennym ni brofiad helaeth o ddarparu atebion mynediad ar gyfer pob gallu.
  • Derw a phren meddal wedi’i drin o ffynonellau cynaliadwy
  • Gallwn hefyd gyflenwi amrywiaeth ehangach o bren gan gynnwys coed ewcalyptws a rhuddin gwyrdd (greenheart), oll o ffynonellau cynaliadwy.
  • Ar gael mewn dyluniadau safonol neu wedi’u dylunio i’ch manyleb chi
  • Rydym ni’n ymgymryd â chomisiynau â themâu a rhai creadigol
  • Dylunio ac adeiladu prosiectau arbennig
  • Gwasanaeth dylunio CAD llawn
  • Cerfio a naddu pren

 

Peirianneg Bren

Gall ein tîm profiadol gyflenwi a gosod ein strwythurau neu gallwn eu cyflenwi mewn ‘Cit’ i eraill eu gosod.

Yn ogystal â dylunio a chyflenwi strwythurau, gallwn hefyd ymgymryd â’r holl waith adeiladu cynorthwyol o ran gosod, sylfeini, cyfosodiadau, llwybrau a gorffen.

Mae gennym ni brofiad o weithio mewn ardaloedd sensitif – Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (ADdGA), gwarchodfeydd natur cenedlaethol, ardaloedd arfordirol a gwlyptiroedd. Rydym ni’n gwerthfawrogi’r gofal arbennig am yr amgylchedd sydd ynghlwm â hyn

Achrediadau

CITB logo

Polisïau