Mae Carped Sgïo Playgrass yn arwyneb artiffisial arloesol hawdd ei ddefnyddio ar gyfer sgiwyr ac eirafyrddwyr o bob gallu, o’r rheiny sy’n megis dechrau i’r arbenigwyr, technegau datblygedig, dull rhydd a pharciau hwyl.
- Deunydd carped parhaus a gwastad sy’n meithrin hyder
- Gostyngiad yn y gyfradd o ddamweiniau
- Arwyneb hyblyg i fynd dros nodweddion, rampiau, pibellau ac arwynebau byrddau
- Arwyneb o’r ansawdd uchaf i fodloni gofynion defnyddwyr ar bob lefel, o ddechreuwyr i arbenigwyr
- Arwyneb sy’n rhydd o fetel
- Dewis arall cost effeithiol i arwynebau llethrau sgïo confensiynol a matiau Dendix traddodiadol
- Deunydd wedi’i ardystio er diogelwch i Safon Brydeinig BSEN1177 (arwyneb maes chwarae amsugno trawiadau 1997). Carped Sgïo Playgrass yw’r unig arwyneb sgïo ar y farchnad i gynnig yr ardystiad diogelwch hwn.