Taith lwyddiannus i Beijing

Dyddiad: 18/09/2017

Yn ystod taith arall lwyddiannus i Beijing, llwyddodd Mike i ymweld â rhai o'r canolfannau sgïo dan do cyntaf sy'n defnyddio Peiriannau Sgïo Cylchdroi yn Tsieina ac i weld ein Carped Sgïo Playgrass ar waith.

Mae MK Enterprises wedi cyflenwi Carped Sgïo Playgrass ar gyfer Arctic Fox Group, sydd wedi’i leoli yn Beijing. Maent wedi dylunio ac adeiladu eu peiriannau sgïo cylchdroi eu hunain yn eu gweithdy. Mae'r ddelwedd yn dangos ein Playgrass mewn defnydd ar bedwar o'u peiriannau.
Mae Winter Wonderland wedi’i leoli yn Beijing a Shanghai, ac maen nhw hefyd yn hyrwyddo sgïo dan do yn Tsieina. Gan fod un o’u lleoliadau â llethrau sgïo sy’n cylchdroi mewn canolfan siopa, eu bwriad yw denu’r genhedlaeth iau i ddefnyddio canolfannau sgïo.

Mae archebion pellach ar gyfer Carped Sgïo Playgrass ar y ffordd gan American Park Outdoor Ski Slope yn Chengdu City a llethr sgïo awyr agored newydd yn cael ei adeiladu gan Edge Sport Development Company ger Shanghai.

Yn dilyn ein hymweliad cyntaf ag ISPO Beijing ym mis Ionawr 2016, rydym ni bellach wedi mynychu pedair Sioe Fasnach Sgïo a hefyd wedi arddangos y mis hwn yn EXPO Chwaraeon Gaeaf y Byd (Beijing) 17. Beijing a fydd yn cynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022 ac mae chwaraeon gaeaf ar gynnydd ledled Tsieina ar hyn o bryd.

Successful Trip to Beijing

Cliciwch yma i ddychwelyd i’r dudalen Prosiectau.

Achrediadau

CITB logo

Polisïau